Arglwydd grasol dyro gymhorth

(Deisyfiad am ledaeniad yr Efengyl)
1,(2,3,4);  1,3,4,5,2,6.
Arglwydd grasol, dyro gymhorth
  I gyhoeddi'n eglur iawn,
Ddyfnder calon dyn truenus,
  Ac anfeidrol ddwyfol ddawn:
    Fel bo'r truan
  Yn cael trysor nef yn rhad.

Duw, teyrnasa ar y ddaear,
  O'r gorllewin pell i'r de;
Cymmer feddiant o'r ardaloedd
  Pellaf, t'wllaf, is y ne':
    Haul Cyfiawnder,
  Llanw'r ddaear fawr â'th ras.

Taened gweinidogion bywyd
  Iachawdwriaeth Iesu ar led;
Cluded moroedd addewidion
  Drosodd draw i'r rhai di-gred:
    Aed Efengyl
  Ar adenydd dwyfol wynt.

Doed preswylwyr yr anialwch,
  Doed trigolion bro a bryn;
Doed y rhai sydd ar y cefnfor, 
  I garu'r iachawdwriaeth hyn:
    Nes b'o adsain
  Moliant yn amgylchu'r byd.

Dyma'r euog ofnus aflan,
  Yn chwennychu bod yn wyn,
Yn yr afon gymmysg liwiau,
  Dorodd allan ar y bryn;
    Balm o Gilead,
  Anghymharol yw dy waed.

Rho fy nwydau fel cantorion,
  I chwareu eu bysedd yn gytun,
Ar y delyn sydd yn seinio,
  Enw IESU mawr ei hun;
    Neb ond IESU,
  Fo'm difyrwch ddydd a nos.
O'r gorllewin pell i'r :: Gorllewin, gogledd, dwyrain,

1 : David Morris 1744-91
2-6: William Williams 1717-91
              - - - - -

Arglwydd grasol, dyro gymhorth,
  I gyhoeddi'n eglur iawn;
Dyfnder calon dyn truenus,
  Ac anfeidrol ddwyfol ddawn;
    Fel bo'r truan,
  Yn cael trysor nef yn rhad.

Tarian gadarn yw dy enw,
  Pan bo'r gelyn yn nesâu;
Angau ei hunan sydd yn ofni,
  Angau sydd yn llwfrhau:
    Ti orchfygaist,
  'Does ond cannu'n awr i mi.

O 'sgrifenna'u eglur, eglur,
  Mewn llyth'renau llawn i gyd,
Bob rhyw sillaf bach o'th gyfraith,
  Ar fy mynwes yma 'nghyd;
    Fel na anghofiwyf,
  Fyth dy eiriau mawr eu pris.

Boed fy nghalon i ti'n deml,
  Boed fy yspryd i ti'n nyth;
Ac o fewn y drigfan yma,
  Aros Iesu, aros byth:
    Gwledd wastadol,
  Fydd dy bresenoldeb im'.
Grawn-Syppiau Canaan 1829

- - - - -

(O flaen Pregeth)
1,(2,(3)).

Arglwydd grasol, dyro gymmorth
  I gyhoeddi'n eto i maes
Ddyfnder calon dyn truenus,
  Ac anfeidrol olud gras:
    Fel bo dyfnder
  Byth am ddyfnder yn cael sôn.

Dyro d'Ysbryd i lefaru
  Ac i wrando d'eiriau pur;
Boed dy lewyrch nefol hyfryd
  A'th arddeliad ar y gwir:
    O! amlyga
  Anorchfygol nerth dy ras.

D'air fel gordd, a dỳr galonau
  Creigaidd iawn yn chwilfriw mân;
D'air, fel tân, a wir oleua, 
  Ac a bura'r brwnt yn lân:
    Gad in' deimlo
  Dwyfol nerth efengyl hedd.
Dyro d'Ysbryd :: Dyro'th Ysbryd
Boed dy :: Boed ei
A'th :: A'i

David Morris 1744-91

Tonau [8787.447]:
Ardudwy (John Roberts 1822-77)
Bonn (<1875)
Bridport (J A Lloyd 1815-84)
Calcutta (<1835)
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
Islwyn (David Lewis 1828-1908)
Llandinam (James Turle 1802-82)
Watford (Salmydd Genefa 1542)
Y Delyn Aur (alaw Gymreig)

gwelir:
  Boed fy nghalon iti'n demel
  Duw teyrnasa ar y ddaear
  Iesu Iesu wyt yn ddigon
  O na ba'wn yn gwel'd y boreu
  O 'sgrifena'n eglur eglur
  Taened gweinidogion bywyd

(Petition for the spread of the Gospel)
 
Gracious Lord, give help
  To the very clear publishing,
The depth of the heart of pitiful man,
  And the immeasurable divine gift:
    So that the wretch may
  Get heaven's treasure freely.

God, reign on the earth,
  From the far west to the south;
Take possession of the regions
  Furthest, darkest, under heaven:
    Sun of Righteousness,
  Fill the great earth with thy grace.

May the ministers of life spread
  The salvation of Jesus abroad;
May seas convey promises
  Afar to those without belief:
    May the Gospel go
  On wings of divine wind.

Let the residents of the desert come,
  Let the inhabitants of vale and hill come;
Let those who are on the high sea come,
  To love this salvation:
    Until resound
  Praise around the world.

Behold the fearful, guilty, unclean,
  Seeking to be white,
In the river of a mixture of colours,
  White broke out on the hill;
    The balm of Gilead,
  Incomparable is thy blood.

Grant my passions like singers,
  To play their fingers in harmony,
On the harp which is sounding,
  The name of great JESUS himself;
    None but JESUS,
  Shall be my delight day and night.
From the far west to the :: West, north, east,

 
 
                - - - - -

Gracious Lord, give help
  To the very clear publishing,
The depth of the heart of pitiful man,
  And the immeasurable divine gift:
    So that the wretch may
  Get heaven's treasure freely.

A secure shield is thy name,
  When the enemy is near;
Death itself fears,
  Death loses heart:
    Thou hast overcome,
  There is only singing now for me.

Oh write clearly, clearly,
  All in full letters,
Every single small syllable of thy law,
  On my breast here together;
    That I forget not,
  Ever thy words of great value.

May my heart be for thee a temple,
  May my spirit be for thee a nest;
And within the residence here,
  Abide, Jesus, abide forever:
    A continuous feast,
  Will be thy presence to me.
 

- - - - -

(Before a Sermon)
 

Gracious Lord, give help
  To publish still abroad
The depth of the heart of pitiful man,
  And the immeasurable riches of grace:
    That depth may
  Forever about depth get to mention.

Give thy Spirit to speak
  And to listen to thy pure words;
Let thy delightful, heavenly radiance be
  And thy approval on the truth:
    Oh reveal
  The indomitable power of thy grace.

Thy word like a hammer, will break very
  Rocky hearts into smithereens;
Thy word, like a fire, will truly light, 
  And will purify the dirty into clean:
    Let us feel
  The divine strength of the gospel of peace.
::
Let thy ... be :: Let his ... be
And thy :: And his

tr. 2010,11 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~